Cartref

 REVIVE SPORTS 
MASSAGE
Byddwn yn helpu i gadw'ch corff yn iach ac mewn siap. 


Croeso i Revive Sports Massage

Nod Revive Sports Massage yw i'ch helpu i weithredu ar eich bywyd gorau a byw bywyd llawn.

Bydd y rhan fwyaf ohonom, boed yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu beidio, ar ryw adeg yn ein bywydau, yn cael trafferthion poenus sy'n ein hatal rhag gwneud yr hyn yr ydym am ei gyflawni. Gall therapi tylino eich cynorthwyo i wella'n gyflym a helpu gyda phoen, doluriau ac anhyblygedd.

Triniaeth gynhwysfawr ar gyfer eich doluriau.

Tylino dywys y meinwe.

Boed yn athletwr proffesiynol, chwaraewr amatur neu rywun sy'n hoffi cymryd rhan mewn chwaraeon am hwyl yn unig, gall tylino eich helpu i gadw ar eich gorau.

Ar ôl sesiwn hyfforddi ddwys neu cyn cystadleuaeth bwysig bydd tylino dwys y meinwe yn helpu i unioni unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig gyda'r cyhyrau neu feinweoedd meddal, gan ganiatáu i chi ganolbwyntio ar y dasg go iawn o ennill.

Aliniad Myoskeletal

Weithiau gall ein chwaraeon, ein swyddi neu'n hobïau cael effaith andwyol ar ein cyrff, (er enghraifft camosodiadau) gall arwain, yn aml, at golli swyddogaeth a phoen. Rydyn yn defnyddio protocolau profion alinio ysgerbydol i ddarganfod achos sylfaenol y mater a thrin yn unol â hynny. Ein nod yw sefydlu dealltwriaeth gynhwysfawr o'r mater a sut mae'n effeithio arnoch chi. Yna byddwn yn trin y broblem gan ddefnyddio technegau ymarferol, meinwe dwfn a gweithio gyda chi i oresgyn y problemau a achosodd y broblem yn y lle cyntaf.



Ein

THERAPYDDION


Ein

GWASANAETHAU


Ein

NEWYDDION

Share by: